Yr Adnoddau

Mae’r Porth Technolegau Iaith Genedlaethol Cymru yn gasgliad o adnoddau technolegol Cymraeg a ddatblygwyd yn yr Uned Technolegau Iaith.

Mae’r adnoddau wedi’u darparu fel ‘blociau adeiladu’, agored ac am ddim, er mwyn galluogi cymorth uwch a llawn o’r Gymraeg o fewn unrhyw gynnyrch gorffenedig digidol.

 

 

Cyfieithu

Adnoddau i chi greu a defnyddio systemau cyfieithu peirianyddol eich hunian.

Lleferydd

Adnoddau i gynhyrchu ac/neu ymateb i leferydd dynol Cymraeg.

Cwmwl

Amrywiaeth o dechnolegau iaith Cymraeg i’w gynnwys yn hwylus o fewn eich apiau, gwefannau feddalwedd Cymraeg neu ddwyieithog.

Corpora (angen llun)

Casgliad enfawr o destunnau ac/neu sain Cymraeg i’w lwytho i lawr.

Hawdd a hwylus!

Elfen bwysig o’r Porth Technolegau Iaith yw y bydd yn cynorthwyo defnyddwyr o ran sut i ddefnyddio’r adnoddau, yn ogystal â chynnig syniadau ar wahanol gynnyrch yn cynnwys apiau, gemau, projectau i’ch Raspberry Pi ac ategion i’w plannu mewn gwefannau.

Mae’r rhan helaeth o’r adnoddau cynorthwyol i’w cael o fewn storfa GitHub y Porth Technolegau Iaith, lle ceir nid yn unig ddogfennaeth ond hefyd god enghreifftiol. Mae mwy o fanylion i’w cael, ynghyd â dolenni at yr adnoddau, dogfennaeth, a syniadau defnydd, yn yr adrannau perthnasol sydd ar gael i’w cyrchu isod.

ELG

Y brif lwyfan i restru a chynnwys holl adnoddau, offer, gwasanaethau a chynnyrch technolegau iaith Ewrop.

GitHub

Gwefan sy’n hwyluso casglu adnoddau projectau cyfrifiadurol ynghyd.

Docker

Technoleg pecynnu a hwyluso gosod meddalwedd ar gyfer Linux, Mac OS X a Windows.

Hugging Face

Llwyfan sy’n caniatáu i ddatblygwyr rannu adnoddau dysgu peirianyddol.