Cyfieithu
Mae technolegau iaith yn chwyldroi’r byd cyfieithu. Yma yn yr Uned Technolegau Iaith, credwn fod angen i’r diwydiant cyfieithu yng Nghymru feddu ar yr adnoddau a’r ddealltwriaeth sy’n ofynnol i allu meistrolir technolegau newydd hyn i’r eithaf.
Mae’r Porth Technolegau Iaith yn cynnwys nifer o adnoddau cyfieithu rhydd ac agored allai arwain at egino a magu cymuned o ddatblygwyr ac ymarferwyr technolegau iaith o fewn y diwydiant cyfieithu Cymraeg.
Aliniwr
Rhaglen sy’n caniatáu alinio rhwng testunau Cymraeg a Saesneg, er mwyn darparu data ar gyfer hyfforddi Moses-SMT.
Adnoddau lleoleiddio
Adnoddau ar gyfer cyfieithu testunau rhyngwynebau meddalwedd, trosi unedau amser, arian, talfyriadau ac ati.
Cyfieithu peirianyddol
Offer cyfieithu peirianyddol sydd yn defnyddio technoleg fodern niwral i gyfieithu testunau, gan gynnwys fframwaith Marian NMT.
Rhannu cofion cyfieithu
Gwefan er mwyn galluogi asiantaethau a sefydliadau cyhoeddus sy’n cyfieithu i rannu eu cofion cyfieithu gyda’i gilydd.