Macsen

ap macsen ar ffon

Mae Macsen yn feddalwedd cynorthwyydd personol Cymraeg cod agored tebyg i Alexa neu’r Google Assistant.

Ystyr cod agored yw y gall unrhyw un weld, addasu a dosbarthu’r cod fel yr hoffen nhw. Mae’n gweithio fel ap ar ffôn neu dabled, ac mae ar gael ar gyfer dyfeisiau iOS ac Android yn ogystal â fersiwn ar-lein. Mae’n bosib siarad gyda Macsen mewn Cymraeg naturiol er mwyn gofyn iddo gwblhau tasgau neu ofyn am wybodaeth.

Sgiliau Macsen

Erbyn hyn, mae gan Macsen nifer o sgiliau, gan gynnwys y gallu i chwarae cerddoriaeth Cymraeg ar Spotify, rhaglenni ar S4C Clic, rhoi’r golau ymlaen neu i ffwrdd, adrodd y newyddion diweddaraf o benawdau Golwg360 a darparu rhagolygon y tywydd o wefan o wefan OpenWeatherMap. Mae Macsen hefyd yn defnyddio ChatGPT, cyfieithu lleferydd Saesneg i destun Cymraeg a thrawsgrifio lleferydd Cymraeg i destun. Felly mae modd teipio yn ogystal â defnyddio’r llais i ofyn cwestiynau a rhoi gorchmynion i Macsen.

Cynorthwyydd

Mae’r datblygiadau diweddaraf ym maes  deallusrwydd artiffisial wedi gweddnewid y maes, a pheri i ni ailystyried yr hyn y mae’n bosib i gyfrifiadur ei gyflawni. Erbyn hyn, mae Macsen yn defnyddio Model Iaith ChatGPT-4 i ateb cwestiynau, rhesymu a sgwrsio drwy gyfrwng y Gymraeg.

Cyfieithu

Mae sgil cyfieithu Macsen yn galluogi defnyddwyr i gyfieithu lleferydd Saesneg i destun Cymraeg. Erbyn hyn, mae’r dechnoleg hefyd wedi’i gysylltu â geiriadur Y Termiadur Addysg, sy’n darparu nodwedd defnyddiol er mwyn rhestru termau cysylltiedig i’r hyn a lefarwyd.  Mae ein hadnoddau eraill sydd ar gael er mwyn hwyluso cyfieithu fel yr aliniwr ac ein hadnodd rhannu cofion cyfieithu i’w gweld yma.

Trawsgrifio

Mae sgil trawsgrifio Macsen yn galluogi defnyddwyr i drawsgrifio unrhyw leferydd Cymraeg yn destun. Ar ôl llefaru eich neges, gallwch gopio’r testun mewn i unrhyw ap, boed yn neges destun, e-bost neu’n restr siopa! Yn ogystal â fel sgil yn Macsen, mae’r rhaglen feddalwedd Y Trawsgrifiwr hefyd ar gael fel fersiwn ar-lein ac fel fersiwn Windows.

Lawrlwythwch ap Macsen

Byddwch yn rhan o chwyldro digidol yr iaith Gymraeg a lawrlwythwch ap Macsen ar gyfer dyfeisiadau iOS neu Android heddiw!

Technolegau iaith o fewn Macsen

Mae Macsen yn defnyddio nifer o dechnolegau gwahanol er mwyn gweithio. Defnyddia adnabod lleferydd Mozilla DeepSpeech i drosi’r hyn yr ydych yn ei ddweud i mewn i destun. Yn dilyn hynny, mae technoleg adnabod bwriad yn cael ei ddefnyddio i adnabod a oedd hynny’n gais am newyddion, y tywydd, cerddoriaeth neu un o’r dewisiadau eraill. Pan fydd angen i Macsen ymateb ar lafar, mae’n gwneud hynny drwy ddefnyddio technoleg testun-i-leferydd i lefaru’r ymateb priodol.

Rydym yn dal wrthi yn gwella’r nodweddion lleferydd, ac os hoffech chi, gallwch ein helpu i’w wella yn y dyfodol drwy gyfrannu recordiadau o’ch llais. Gallwch wneud hyn o fewn yr ap drwy glicio ar Hyfforddi yno. Bydd hyn yn eich arwain i ddarllen yn uchel y brawddegau sy’n cael eu hadnabod ar gyfer y sgiliau yn yr ap. Byddwn yn defnyddio’r recordiadau hyn i greu setiau datblygu a setiau profi ar gyfer hyfforddi’r adnabod lleferydd. Os ydych am gyfrannu mwy na hyn, ewch i wefan CommonVoice Mozilla i recordio brawddegau ar gyfer y casgliad mawr o recordiadau. Mae rhagor o wybodaeth am y technolegau hyn a’r Gymraeg ar gael yn y Llawlyfr Technolegau Iaith a gyhoeddwyd gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

Ariannwyd Macsen a’r gwaith adnabod lleferydd gan Lywodraeth Cymru, ac rydym yn diolch iddyn nhw ac i’r gwirfoddolwyr sydd wedi bod yn cyfrannu eu lleisiau i wella technoleg lleferydd.

Diolch hefyd i Golwg360 ac i OpenWeatherMap am ganiatâd i ddefnyddio’u gwasanaethau ar-lein.

Adnoddau cod agored i ddatblygwyr

Rydyn ni’n defnyddio’r project hwn i ddangos beth allwn ni greu wrth ddatblygu technoleg lleferydd a deallusrwydd artiffisial Cymraeg ac mae’r holl gydrannau ac adnoddau perthnasol wedi eu rhannu isod dan drwydded cod agored:

Angen: Cod i’r ap / Cod i’r parsiwr / Dolen dogfennaeth