Testun-i-leferydd
Mae technolegau testun-i-leferydd yn caniatáu i system gyfrifiadurol lefaru unrhyw destun gyda llais synthetig neu naturiol.
Gall y testun ddeillio o ddogfennau, gwefan, negeseuon testun neu system meddalwedd wedi’i mewnblannu (lle nad oes modd dangos testun ar sgrin). Mae adnoddau testun-i-leferydd Cymraeg y Porth Technolegau Iaith wedi’i seilio ar system cod agored sef MaryTTS (https://marytts.github.io/)
Adnoddau MaryTTS
Mae adnoddau MaryTTS y Porth Technolegau Iaith yn eich galluogi i ddefnyddio a chreu lleisiau synthetig Cymraeg eich hunan. Mae’r lleisiau yn swnio’n naturiol iawn ac mae’r broses yn un hynod o hwylus.
Ewch i’r adnoddau ar GitHub i ddysgu mwy: