Vocab 2.0 – Cyfarwyddiadau i Ddatblygwyr
Mae’n hawdd iawn gosod ategyn Vocab 2.0 ar eich gwefan. Yn dibynnu ar eich gofynion, cewch naill ai ei osod drwy ddefnyddio ategyn WordPress, modiwl NPM, neu Dag script.
Ategyn WordPress
I osod yr Ategyn WordPress, ewch i’ch Bwrdd Rheoli, yna dewisiwch ‘Ategion’, yna ‘Ychwanegu Ategyn Newydd’.

Yna cewch chwilio am Vocab yn y blwch chwilio sydd tua tri chwarter i lawr y dudalen ar y dde. Teipiwch Vocab yn y blwch yna gwasgwch y dychwelwr.

Yna, dewiswch yr opsiwn hwn:

Fel arall, gallwch ddewis y botwm ‘Llwytho Ategyn i Fyny’ sydd ar frig y Bwrdd Rheoli. Bydd angen llwytho’r ategyn o https://wordpress.org/plugins/vocab/ i’ch cyfrifiadur cyn dewis yr opsiwn hwn.
Tag script
Os nad ydych chi’n defnyddio WordPress, cewch osod Vocab 2.0 ar eich gwefan trwy ddefnyddio tag script. I osod ategyn Vocab 2.0 ar eich gwefan, ychwanegwch y llinell ganlynol at god tudalen eich gwefan, cyn y tag cau </head>
:
<script defer src="https://cdn.techiaith.cymru/vocab/2.0.14/vocab.js" crossorigin="anonymous" integrity="sha384-hIFsKZ7JilKGYezSKoq84MtdbbAY0gAgw6ITFTekyjl2tmZoUh7WPd5/n9FYAvAh"></script>
Dyma’r ffordd fwyaf ddiogel o osod tag script ar eich gwefan. Mae’n defnyddio nodwedd diogeledd SRI, sy’n gweithio trwy ganiatáu’r defnydd o hash cryptograffig y mae’n rhaid i adnodd a gyrchir ei gyfateb iddo (gweler https://developer.mozilla.org/en-US/docs/Web/Security/Subresource_Integrity am fwy o fanylion). Gan fod yn rhaid cynnwys yr hash cryptograffig yn y cod, a gan y bydd yr hash yn newid gyda phob fersiwn newydd o Vocab 2.0, nid oes modd diweddaru eich gosodiad Vocab 2.0 yn awtomataidd. Dewch nôl i’r dudalen hon yn aml er mwyn sicrhau fod y fersiwn diweddara o’r cod, ac felly fersiwn diweddara Vocab 2.0, wedi ei osod ar eich gwefan.
Rydyn ni hefyd yn darparu cod sy’n fwy hwylus i’w ddefnyddio, ac sy’n caniatáu eich gosodiad Vocab 2.0 i ddiweddaru’n awtomataidd. Ychwanegwch y llinell ganlynol at god tudalen eich gwefan yn lle’r cod uchod, eto cyn y tag cau </head>
, er mwyn defnyddio’r dull hwn o weithredu:
<script defer src="https://cdn.techiaith.cymru/vocab/2/vocab.js" crossorigin="anonymous"></script>
NODWCH: gan nad yw’r dull hwn yn defnyddio nodwedd diogeledd SRI, nid yw mor ddiogel â’r dull blaenorol. O ddefnyddio’r dull hwn rydych chi’n cydnabod ac yn derbyn hynny.
Modiwl NPM
Os ydych chi’n ddatblygydd we sydd angen mwy o hyblygrwydd o ran gosod Vocab 2.0 ar eich gwefan, cysylltwch â ni trwy e-bostio techiaith@bangor.ac.uk am ragor o fanylion ynghylch gosod Vocab 2.0 trwy ddefnyddio modiwl NPM.
Defnyddio geiriaduron amgen
Mae Vocab 2.0 yn adnabod geiriau o eiriaduron megis Cysgeir a’r Termiadur Addysg yn nhestun gwefan. Os oes gennych unrhyw anghenion amgen geiriadurol cysylltwch â ni i’w trafod trwy e-bostio techiaith@bangor.ac.uk.