Hunspell

Hunspell Cymraeg

Mae Hunspell yn wirydd sillafu cod agored a ddefnyddir mewn nifer o becynnau meddalwedd.

Yn Hydref 2020 cafodd ei adolygu a’i ddiweddaru’n sylweddol gennym. Rydym yn parhau i ddiweddaru Hunspell yn aml. Mae’r diweddariad mwyaf ddiweddar yn cynnwys ffurfiau cysefin ychwanegol (gan gynnwys ‘actiwari’, ‘biodreulio’ a ‘seiberfwlio’) yn ogystal â 98 enw lle rhyngwladol ychwanegol (megis ‘Irac’). Mae’r fersiwn newydd hwn hefyd yn delio gyda gogwyddeiriau Cymraeg yn well.

Mae’r ffeiliau ar gael o’n tudalen GitHub:

https://github.com/techiaith/hunspell-cy

(Cliciwch ar y botwm gwyrdd ‘Code’ ac yna dewis ‘Download Zip’ i lytho’r pecyn i lawr.)

Hunspell Cymraeg Llafar

Mae’r fersiwn hwn o Hunspell, sydd ar wahân i’r fersiwn uchod, wedi ei deilwra yn arbennig at anghenion y trawsgrifwyr sydd yn cyfrannu at fanc trawsgrifiadau Uned Technolegau Iaith Prifysgol Bangor. Mae’n cynnwys nifer o ffurfiau llafar sy’n cydymffurfio gyda chonfensiynau trawsgrifio verbatim y project hwnnw (gw. Confensiynau Trawsgrifio Bangor am fwy o fanylion). Ceir ynddo ffurfiau llafar megis ch’modrwbathsicir a gweud.

Mae’r ffeiliau ar gael o’n tudalen GitHub:

https://github.com/techiaith/hunspell-cy-llafar

(Eto, cliciwch ar y botwm gwyrdd ‘Code’ ac yna dewis ‘Download Zip’ i lytho’r pecyn i lawr.)

Gosod Hunspell Cymraeg o fewn LibreOffice

Dilynnwch y cyfarwyddiadau hyn er mwyn gosod Hunspell o fewn LibreOffice: Cyfarwyddiadau LibreOffice cy.odt