Ategyn cymreigio porwyr
Mae gadael y dewis iaith cynnwys porwyr ar Saesneg (UDA) yn peri glanio yn ddieithriad ar dudalennau Saesneg gwefannau dwyieithog ac amlieithog.
Mae’r ategyn yn cynnwys gwybodaeth glir a syml ar sut yn union y gellir gosod y Gymraeg fel iaith cynnwys ddiofyn mewn gwahanol borwyr, a thrwy hynny, sicrhau eu bod yn glanio ar dudalennau Cymraeg eu hiaith os ydynt ar gael.
Mae ystadegau defnydd o wefannau’r Uned Technolegau Iaith, fel y Porth Termau a Cysill Ar-lein, yn dangos mai Saesneg (UDA) yw dewis iaith cynnwys ddiofyn porwr y mwyafrif helaeth o ddefnyddwyr. Mae’r dystiolaeth hefyd yn dangos bod gan fwyafrif y defnyddwyr dueddiad i aros ar yr ochr Saesneg ac i beidio clicio i ddefnyddio’r tudalennau Cymraeg. Mae dros 90% o ddefnyddwyr Cysill Ar-lein o fewn gwefan Cymorth Cymraeg Canolfan Bedwyr yn aros ar y dudalen Saesneg ac yn ei defnyddio yn yr iaith honno.
Yn hyn o beth, ac o bwys mawr ar gyfer adnabod lleferydd Cymraeg, mae’r ategyn yn harneisio grym technoleg gyfrifiadurol i gyfeirio ac annog defnyddwyr at yr iaith leiafrifol yn hytrach na gadael i’r dechnoleg atgyfnerthu grym a statws iaith fwyafrifol.
Mae modd cynnwys yr ategyn o fewn eich gwefan drwy ychwanegu’r llinell ganlynol o fewn HTML eich gwefan:
Dyma’r cod ffynhonnell syml ar gyfer ei ddarparu fel ategyn WordPress. Sylwer, nid yw’r ategyn yn cael ei gynnwys o fewn tudalennau Saesneg.
add_action('wp_head','insert_cymreigio_gwtjs');
Mae rhai gwefannau ar gael yn ddwyieithog neu’n amlieithog sy’n golygu y gall cyfeiriad gwe e.e. http://www.bangor.ac.uk, gyfeirio at dudalen gartref sy’n Gymraeg neu’n Saesneg. Er mwyn hwyluso penderfynu ym mha iaith y dylid darparu’r cynnwys, mae porwyr yn caniatáu i chi nodi pa ieithoedd rydych yn eu defnyddio i ddarllen ar y we ac i’w rhestru yn nhrefn eich dewis. Mae porwyr wedyn yn cyfleu’r dewis iaith o fewn pob cais ar gyfer cynnwys pob cyfeiriad gwe.
Gweler https://www.rfc-editor.org/rfc/rfc9110.html#name-accept-language am wybodaeth dechnegol bellach.