Strengthening the future of Welsh

Caiff Porth Technolegau Iaith Cenedlaethol Cymru ei ddarparu gan Uned Technolegau Iaith, Prifysgol Bangor.
Bwriad y Porth yw darparu un man canolog i roi gwybod am adnoddau a chyhoeddiadau academaidd perthnasol, y rhan fwyaf ohonynt yn cael eu hariannu gan Lywodraeth Cymru.

Resources for everyone
Pecynnau parod wedi’u hanelu at unrhyw un sy’n dymuno defnyddio Technolegau Iaith Cymraeg, gan gynnwys Macsen, Y Trawsgrifiwr ac Ap Geiriaduron.
Accessibility
Adnoddau er mwyn hwyluso ac hybu hygyrchedd gan gynnwys rhaglen darllen sgrin (NVDA), ac lleisiau synthetig dwyieithog.
Resources for developers
Adnoddau wedi’u hanelu at gwmnïau meddalwedd, ymchwilwyr, hacwyr, gwirfoddolwyr brwdfrydig yn ogystal â chlybiau codio Cymraeg.
Academic publications
Ymchwil sy’n ymdrin â phob agwedd o Dechnolegau Iaith, gan gynnwys adnabodd lleferydd, testun-i-leferydd, deallusrwydd artiffisial a llawer iawn mwy.
Language technologies for everyone

Mae Technolegau Iaith yn cyfeirio at gyfrifiaduron a dyfeisiau digidol sy’n ceisio gweithio gydag ieithoedd dynol.
Gall hyn gynnwys technoleg adnabod lleferydd, testun-i-leferydd, cyfieithu peirianyddol, prosesu iaith naturiol (NLP) a deallusrwydd artiffisial (AI).
Un adnodd sy’n cwmpasu’r holl elfennau hyn yw’r cynorthwyydd personol digidol Cymraeg, Macsen. Mae’n debyg i Alexa neu Google Assistant ond yn gweithio fel ap… ac mae’n Gymraeg!

Resources for developers


Mae Porth Technolegau Iaith Cymru yn cynnwys llu o adnoddau wedi’u hanelu at gwmniau meddalwedd, ymchwilwyr, hacwyr, gwirfoddolwyr brwdfrydig yn ogystal â chlybiau codio Cymraeg.
Mae’r holl adnoddau dogfennaeth, enghreifftiau a thiwtorialau sy’n egluro defnydd ein cynnyrch wedi eu lleoli ar GitHub.
Y bwriad, yw darparu’r adnoddau fel ‘blociau adeiladu’, agored ac am ddim, er mwyn galluogi cymorth uwch a llawn o’r Gymraeg o fewn unrhyw gynnyrch gorffenedig digidol.
Academic publications
Mae datblygu adnoddau Technolegau Iaith dan arweiniad ymchwil yn hollbwsig er mwyn hyrwyddo’r Gymraeg fel iaith fyw, fodern sy’n edrych tua’r dyfodol.
Mae’r effaith wedi ymestyn y tu hwnt i Gymru, gan ddylanwadu ar y map ffordd cydraddoldeb ieithoedd digidol yn rhyngwladol a dylanwadu ar ymarfer yn fyd-eang.
A selection of our resources
Mae Porth Technolegau Iaith Cenedlaethol Cymru yn gasgliad eang o adnoddau technolegol Cymraeg.
Mae’r adnoddau hyn wedi’u hanelu at gwmnïau meddalwedd, ymchwilwyr, hacwyr, gwirfoddolwyr brwdfrydig yn ogystal â chlybiau codio Cymraeg.
Macsen
Cynorthwyydd digidol personol Cymraeg tebyg i Alexa. Ar gael ar-lein ac fel ap ar ddyfeisiadau iOS ac Android.
Lleisiau synthetig
Casgliad o leisiau synthetig testun i leferydd dwyieithog, Cymraeg a Saesneg.
Adnoddau Lleoleiddio
Adnoddau ar gyfer cyfieithu testunau rhyngwynebau meddalwedd, trosi unedau amser, arian, talfyriadau ac ati.
Gwasanaethau API
Canolfan gwasanaethau APIs sydd yn darparu amrywiaeth o wasanaethau technoleg iaith ar-lein.
Y Trawsgrifiwr
Rhaglen feddalwedd sy’n trawsgrifio lleferydd Cymraeg yn destun, defnyddiol ar gyfer creu isdeitlau fideos.
Aliniwr
Rhaglen sy’n caniatáu alinio rhwng testunau Cymraeg a Saesneg.
Cyfieithu Peirianyddol
Offer cyfieithu peirianyddol sydd yn defnyddio technoleg fodern niwral i gyfieithu testunau.
Ategion
Mae rhai o’r adnoddau ar gael ar ffurf ategyn i’w gosod o fewn eich gwefan i gynorthwyo defnydd o’r Gymraeg.
Let our technologies speak for themselves...
Stronger together


Mae sicrhau cysylltiad agos â byd busnes, diwydiant a gwasanaethau cyhoeddus yn hollbwysig i’n gwelediaeth.
Mae Partneriaethau Trosglwyddo Gwybodaeth (KTP) yn un ffordd o hwyluso’r broses o dosglwyddo gwybodaeth ac arbenigedd academaidd i brojectau byd ‘go iawn’.
Rydym wedi cynnal llu o bartneriaethau tebyg yn y gorffennol gyda chwmniau bach a mawr, o Gymru a thu hwnt ac yn awyddus i barhau i bontio’r bwlch rhwng y byd academaidd a diwydiant.
Ready to contribute?

Os ydych chi’n dymuno bod yn rhan o’r chwyldro digidol Cymraeg, gallwch rannu eich llais neu ddilysu brawddegau drwy wefan Common Voice. Neu oes gennych recordiadau sain boed yn bodlediadau, rhaglenni teledu neu fideos byddech yn hapus i’w rhannu ac sydd yn rhydd o hawlfraint, cysylltwch â ni!
