Beta
Mae Vocab 2.0 yn ddiwygiad o’r cod a’r technolegau defnyddir ar gyfer y Vocab gwreiddiol, sydd wedi bod ar gael am ddim ers 2015. Gan fod hyn yn golygu trosi cod bron i gyd, rydyn dal i’w brofi a’i chaboli. Gynted bydd y gwaith yma wedi ei orffen bydd y statws ‘beta’ yn cael ei ollwng a’r hen fersiwn yn cael ei ddisodli gan Vocab 2.0.
Beth yw Vocab?
Mae’r ategyn Vocab yn adnabod geiriau o eiriaduron megis Cysgair a’r Termiadur Addysg yn nhestun eich gwefan, ac yn eu tanlinellu. Ar ôl gosod y rhaglen, bydd modd i ddefnyddwyr weld cofnodion geiriadurol llawn drwy symud y llygoden dros eiriau sydd wedi’u tanlinellu.
Gosod Vocab
Mae’n hawdd iawn gosod ategyn Vocab ar eich gwefan.
Yn gyntaf rhaid gofrestru’r wefan a chael allwedd API. Ewch i Cofrestru am allwedd API ar gyfer y cyfarwyddiadau llawn.
Yna ychwanegwch y cod dilynol gyda’r allwedd API o fewn ardal `<head>` eich dudalen(nau) gwefan.
<!-- Vocab --> <link type="text/css" rel="stylesheet" href="https://api.techiaith.org/porthtermau/vocab/ui/Vocab_2_0.css"> <link type="text/css" rel="stylesheet" href="https://api.techiaith.org/porthtermau/ui/skins/Default/DictionaryEntry.css"> <link type="text/css" rel="stylesheet" href="https://api.techiaith.org/porthtermau/ui/skins/GeiriadurBangor/CysgairEntry.css"> <script type='text/javascript'> var vocabConfig = { apikey : <EICH_ALLWEDD_API> }; </script> <script type="text/javascript" language="javascript" src="https://api.techiaith.org/porthtermau/vocab/ui/vocab_2_0/vocab_2_0.nocache.js"></script> <!-- ********************* -->
Er mwyn i botwm Vocab ymddangos lle ddymunwch iddo ymddangos, ychwanegwch y `<div>` canlynol o fewn eich HTML
<div id="vocab_button"></div>
Enghraifft
Mae enghreifftiau o Vocab ar waith ar y dudalennau canlynol:
https://cbsc04.techiaith.cymru/vocab/LlywodraethCymru/Addysg_a_sgiliau.html